Call us on 0845 601 2923
or
 
 
 

Cymraeg

Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS) yn sefydliad gwirfoddol annibynnol a gynhelir gan grant gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae TPAS yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad i aelodau o'r cyhoedd, gan gwmpasu cynlluniau'r Wladwriaeth, cwmni, personol a chyfranddeiliaid. Rydym hefyd yn helpu unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd â phroblem, cwyn neu anghydfod gyda'u trefniant pensiwn galwedigaethol neu breifat.

Mae ein gwasanaeth am ddim ac fe'i darperir gan rwydwaith cenedlaethol o ymgynghorwyr gwirfoddol a gynhelir ac yr ychwanegir atynt gan staff technegol a gweinyddol a leolir yn Llundain.

Mae TPAS yn gweithredu llinell gymorth genedlaethol ar: 0845 6012923.

Helpu gydag Anghydfodau.

Os ydych yn ceisio ein cymorth i ddatrys anghydfod neu gŵyn, yna mae'n rhaid eich bod eisoes wedi ceisio gwneud hyn yn ysgrifenedig gyda'r partïon cysylltiedig. Bydd angen copïau o'r ohebiaeth honno arnom ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill. Fel arfer, anfonir y ffeil achos at un o'n hymgynghorwyr gwirfoddol a fydd, drwy gymodi a chyflafareddu, yn ceisio datrys y broblem os credant fod eich cwyn neu'r anghydfod wedi'i gyfiawnhau.

Mae pob ymgynghorydd gwirfoddol yn weithiwr pensiwn proffesiynol profiadol sy'n rhoi o'u hamser yn hael. Maent yn dod ag annibyniaeth ac arbenigedd ar y materion dan sylw gyda'r nod o'u datrys. Os nad ydynt yn ystyried bod hyn yn bosibl, byddant yn argymell pa gamau gweithredu pellach y gallech eu cymryd.

Rhoi Gwybodaeth ac Arweiniad

Os ydych yn ceisio cyngor neu arweiniad cyffredinol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Bydd y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn:

  • Ceisio datrys yr anghydfod neu'r gwyn sydd gennych;
  • Rhoi gwybodaeth ac arweiniad i chi ar unrhyw gwestiwn cyffredinol a allai fod gennych am unrhyw fater pensiwn;
  • Eich cynghori am eich hawliau o ran eich cynlluniau pensiwn galwedigaethol, personol neu gyfranddeiliaid;
  • Ceisio sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau y mae hawl gennych iddynt;
  • Egluro ac esbonio unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall am fuddiannau eich pensiwn neu'r cynllun;
  • Rhoi gwybodaeth gyffredinol ar weithdrefnau system pensiwn y wladwriaeth;
  • Eich cynghori o ran pwy y dylech gysylltu â hwy os nad yw eich ymholiad yn briodol i'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau.

Ni all y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau gynorthwyo:

  • Os yw eich problem yn ymwneud â'ch swydd yn hytrach na'ch pensiwn;
  • Os ydych mewn anghydfod am Fudd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (gan gynnwys pensiynau'r Wladwriaeth);
  • Os ydych am ei gael cyngor ar fuddsoddi ond gallwn egluro'r opsiynau posibl;
  • Os ydych am geisio newid rheolau trefniant pensiwn neu lobïo am welliannau;
  • Os yw'r Ombwdsmon Pensiynau eisoes wedi ymchwilio i'ch cwyn;
  • Os ydych eisoes wedi dechrau achos cyfreithiol.

Cynllun Iaith Gymraeg: 2009

Cyhoeddiadau

Share with:
Contact Us

There are a number of ways to contact us.

Call
0845 601 2923
or email

Ask Our Experts
Our pension experts will be happy to answer your questions

Live Q&A
We will even answer your questions live online.
Next session at 2pm on 8 September 2010

 
Annuity Planner

Are you looking to draw retirement benefits?  Our annuity planner will help you understand your options and decide what to do next.

 
Future Pension Reforms

Want to know what changes are being made to pensions in the future?