Amdanom ni
Rydym yn sefydliad gwirfoddol annibynnol sy'n cael cymorth grant
gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Rydym yn rhoi gwybodaeth a chanllawiau i'r cyhoedd am bob mater
yn ymwneud â phensiynau, gan gwmpasu cynlluniau'r
wladwriaeth, cwmni, personol a chyfranddeiliaid.
Rydym hefyd yn helpu unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd â
phroblem, cwyn neu anghydfod yn ymwneud â'i drefniant pensiwn
galwedigaethol neu breifat. Nid ydym yn delio â phroblemau,
cwynion nac anghydfodau sy'n ymwneud â phensiynau'r
wladwriaeth.
Mae ein gwasanaeth am ddim ac fe'i darperir gan rwydwaith
cenedlaethol o ymgynghorwyr gwirfoddol a gefnogir gan staff
technegol a gweinyddol yn Llundain.
Rydym yn falch iawn o safon ein personél. Mae gan ein
gwirfoddolwyr a'n staff technegol ym maes pensiynau lawer o
flynyddoedd o brofiad o weithio yn y diwydiant pensiynau ac mae
ganddynt ystod eang o gymwysterau proffesiynol.
Sut y gallwn helpu?
Rydym yn darparu dau wasanaeth i'r cyhoedd - gan roi gwybodaeth
a chanllawiau ar bob mater yn ymwneud â phensiynau a helpu i
ddatrys cwynion ac anghydfodau sy'n ymwneud â phensiynau
preifat.
Gwybodaeth a chanllawiau
Gallwch ofyn i ni am gyngor cyffredinol neu ganllawiau ar bob
mater yn ymwneud â phensiynau. Cliciwch yma i gael gwybod sut i gysylltu
â ni.
Gallwn:
- Roi gwybodaeth a chanllawiau i chi ar unrhyw gwestiwn
cyffredinol a allai fod gennych am unrhyw fater yn ymwneud â
phensiynau;
- Ceisio datrys yr anghydfod neu'r gwyn a allai fod gennych;
- Eich cynghori am eich hawliau o ran eich cynlluniau pensiwn
galwedigaethol, personol neu gyfranddeiliaid;
- Ceisio sicrhau eich bod yn cael y budd-daliadau y mae gennych
hawl iddynt;
- Egluro ac esbonio unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall am
fuddiannau eich pensiwn neu'ch cynllun;
- Rhoi gwybodaeth gyffredinol am system pensiwn y wladwriaeth;
ac
- Dweud wrthych gyda phwy y dylech gysylltu os nad yw'n briodol i
ni ddelio â'ch ymholiad.
Cwynion ac anghydfodau
Gallwch ofyn i ni eich helpu i ddatrys cwyn neu anghydfod yn
ymwneud â phensiynau. Cliciwch yma i gael gwybod sut i gysylltu
â ni.
Rhaid eich bod eisoes wedi ceisio datrys y gŵyn neu'r
anghydfod yn ysgrifenedig gyda'r partïon dan sylw. Bydd angen
copïau o'r ohebiaeth honno arnom ac unrhyw ddogfennau
perthnasol eraill. Fel arfer, anfonir y ffeil achos at un o'n
hymgynghorwyr gwirfoddol a fydd, drwy gymodi a chyflafareddu, yn
ceisio datrys y broblem os bydd o'r farn bod eich cwyn neu
anghydfod yn gyfiawn.
Mae'r ymgynghorwyr gwirfoddol yn weithwyr proffesiynol profiadol
ym maes pensiynau sy'n rhoi o'u hamser yn hael. Maent yn cynnig
annibyniaeth ac arbenigedd ar y materion dan sylw gyda'r nod o'u
datrys. Os na fyddant yn credu bod hyn yn bosibl, byddant yn
argymell pa gamau gweithredu pellach y gallech eu cymryd.
Ni allwn eich helpu gyda'ch cwyn neu anghydfod:
- Os yw'n ymwneud â'ch swydd yn hytrach na'ch pensiwn;
- Os yw'n ymwneud â budd-daliadau'r wladwriaeth (yn cynnwys
pensiwn y wladwriaeth);
- Os yw'n ymwneud â chyngor ar fuddsoddi:
- Os ydych am geisio newid rheolau trefniant pensiwn neu
lobïo am welliannau;
- Os yw'r Ombwdsmon Pensiynau eisoes wedi ymchwilio i'ch
cwyn;
- Os ydych eisoes wedi dechrau achos cyfreithiol.
Y llinell gymorth
Rydym yn gweithredu llinell gymorth genedlaethol a gaiff ei
redeg gan weithwyr proffesiynol ym maes pensiynau a fydd yn rhoi
gwybodaeth a chanllawiau ar unrhyw agwedd ar bensiynau
galwedigaethol, personol, cyfranddeiliaid a phensiynau'r
wladwriaeth. Mae'r llinell ar agor i'r cyhoedd ond nid y rheini
sy'n gweithredu mewn rhinwedd broffesiynol megis ymgynghorwyr
ariannol, cyfreithwyr, ymddiriedolwyr cynlluniau ac ati.
Rhif y llinell gymorth yw 0845 601 2923.
Rydym hefyd yn darparu llinellau cymorth a gynlluniwyd yn
benodol i:
- ferched - 0845 600 0806
- pobl hunangyflogedig - 0845 602 7021.
Mae'r llinellau cymorth ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i
ddydd Gwener. Gallwch ffonio y tu allan i'r amseroedd hyn a gadael
rhif ffôn i rywun eich ffonio'n ôl.
Y gwasanaeth cynghori ar bensiynau a'r Ombwdsmon Pensiynau
Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a'r Ombwdsmon Pensiynau
yn chwarae rolau tra gwahanol wrth ddatrys problemau, cwynion ac
anghydfodau yn ymwneud â chynlluniau pensiwn.
Y gwasanaeth cynghori ar bensiynau
Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn ymwneud â'r
broses cyn yr Ombwdsmon Pensiynau, sydd fel arfer yn gwneud
penderfyniad terfynol ar y mater. Nid oes gan y Gwasanaeth Cynghori
ar Bensiynau unrhyw bwerau statudol a dim ond drwy ddwyn
perswâd a chymodi y gall effeithio ar ddatrysiad. Ar y llaw
arall, mae gan yr Ombwdsmon Pensiynau bwerau tebyg i lys barn.
Mae'r rhan fwyaf o ymgynghorwyr y Gwasanaeth Cynghori ar
Bensiynau yn perthyn i'r diwydiant pensiynau ac maent yn darparu'r
gwasanaeth hwn am ddim yn eu hamser eu hunain. Eu tasg gyntaf yw
casglu cymaint o wybodaeth â phosibl gennych chi a'r holl
bartïon eraill dan sylw. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar
Bensiynau yn gwbl ddiduedd. Os na fydd ein hymgynghorydd, yng
ngoleuni'r wybodaeth sydd ar gael, o'r farn bod modd cynnal eich
achos, bydd yn rhoi gwybod i chi, yn esbonio pam y daethpwyd i'r
casgliad hwn ac yn dychwelyd y ffeil i'r swyddfa i'w chau.
Nid yw unrhyw farn a fynegir gennym yn gyfreithiol-gyfrwymol
mewn unrhyw ffordd ac mae gennych yr hawl o hyd i fynd â'ch
achos at yr Ombwdsmon Pensiynau, ar yr amod ei fod o fewn ei
awdurdodaeth.
Os bydd ein hymgynghorydd o'r farn bod gennych achos, bydd yn
eich cynorthwyo chi a'r partïon eraill i ddod i gytundeb. Gall
hyn olygu y cewch bopeth a ddymunwch ond efallai y bydd angen i chi
wneud cyfaddawd a chytuno ar setliad. Beth bynnag fydd barn ein
hymgynghorydd, gallwch fynd â'ch achos i'r Ombwdsmon
Pensiynau o hyd ar unrhyw adeg, ar yr amod ei fod o fewn ei
awdurdodaeth.
Er mai gwirfoddolwyr sy'n ymdrin â'r rhan fwyaf o gwynion
yr ymchwilir iddynt gan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau,
disgwylir iddynt gynnal safonau penodol o ran achosion sy'n mynd
rhagddynt. Yn gyffredinol, disgwyliwn iddynt weithredu ar bob eitem
o ohebiaeth o fewn amser rhesymol a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i
chi am hynt eich achos o leiaf bob wyth wythnos.
Os byddwch yn anfodlon ar y gwasanaeth a gewch gan un o
ymgynghorwyr y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau, rhowch wybod i ni.
Os byddwch am wneud cwyn ffurfiol am y gwasanaeth (ond nid y farn a
roddwyd), ysgrifennwch at Bennaeth Gwasanaethau Corfforaethol.
Yn gyffredinol, cedwir papurau achos am bedair blynedd oni bai y
cânt eu trosglwyddo i Swyddfa'r Ombwdsmon Pensiynau neu'r
Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol. Fodd bynnag, dylid gwneud cwynion o
fewn deuddeg mis i'r adeg yr ymdriniodd eich ymgynghorydd â'r
achos ddiwethaf.
Os, ar ôl ymchwilio i'ch achos, bydd ein hymgynghorydd
gwirfoddol o'r farn y gallai cyfeirio eich achos at yr Ombwdsmon
Pensiynau fod yn fuddiol, caiff y ffeil ei dychwelyd i'n swyddfa.
Byddwn yn cynnal adolygiad annibynnol o'r ffeil ac yn rhoi barn
arbenigol arall arni. Er y bydd hyn fel arfer yn cadarnhau barn yr
ymgynghorydd, weithiau bydd barn y swyddfa yn wahanol. Os bydd y
swyddfa yn cytuno bod achos i'w benderfynu, bydd yn eich helpu i
gyflwyno'ch cwyn i'r Ombwdsmon Pensiynau.
Yr Ombwdsmon Pensiynau
Rhaid cyflwyno cwynion i'r Ombwdsmon Pensiynau gan ddefnyddio'r
ffurflen gwyno swyddogol, y byddwn yn rhoi copi i chi ohoni os nad
oes gennych un eisoes. Os bydd eich cwyn yn ymwneud â
chynllun gweithle a'ch bod yn enwi ymddiriedolwyr y cynllun neu
reolwr y cynllun fel un o'r ymatebwyr, dim ond ar ôl i chi
ddefnyddio proses datrys anghydfodau fewnol y cynllun y gall yr
Ombwdsmon Pensiynau gynnal ymchwiliad. Mae hwn yn ofyniad statudol.
Gallwn roi canllawiau i chi ar sut i wneud hyn.
Ar ôl derbyn eich ffurflen, bydd swyddfa'r Ombwdsmon
Pensiynau yn gofyn i ni drosglwyddo eich ffeil achos cyn cynnal yr
ymchwiliad. Bydd yr Ombwdsmon Pensiynau yn gwneud ei benderfyniad
ei hun ar eich achos yn seiliedig ar ei ddehongliad o'ch hawliau
cyfreithiol. Yn dilyn ei ymchwiliad, bydd yr Ombwdsmon Pensiynau yn
penderfynu ar eich cwyn neu anghydfod. Bydd y penderfyniad hwn yn
gwbl annibynnol ar unrhyw farn a roddwyd gan y Gwasanaeth Cynghori
ar Bensiynau ar eich achos. Bydd ei benderfyniad yn derfynol ac yn
ymrwymo pob parti i'r gŵyn neu anghydfod. Gellir ei orfodi yn
y llysoedd. Dim ond drwy apelio i'r llys priodol mewn perthynas
â phwynt cyfreithiol y gellir newid ei benderfyniad.
Terfyn amser
Dylech ysgrifennu at yr Ombwdsmon Pensiynau o fewn tair blynedd
i'r mater rydych yn cwyno amdano neu y ceir anghydfod yn ei gylch.
Os nad oeddech yn gwybod am y mater ar y pryd, mae'r terfyn amser o
dair blynedd yn rhedeg o'r amser roeddech yn gwybod amdano neu'r
amser y dylech fod wedi gwybod amdano.
Gall yr Ombwdsmon Pensiynau ymestyn y terfyn amser os caiff y
gŵyn ei gwneud ar ôl y cyfnod o dair blynedd, ond dim
ond bydd o'r farm bod unrhyw oedi y tu hwnt i'r amser hwnnw yn
rhesymol. Yn benodol, gall drin amser a dreulir yn defnyddio
gweithdrefn datrys anghydfodau fewnol ac/neu yn cael cymorth gan y
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau fel rheswm da dros oedi cyn gwneud
cwyn iddo.
Fodd bynnag, os bydd oedi rhyngom ni'n cau eich ffeil a chi'n
gwneud cwyn i'r Ombwdsmon Pensiynau, bydd yr amser hwnnw yn cyfrif
tuag at y terfyn o dair blynedd.
Chi, nid ymgynghorydd y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau, sy'n
gyfrifol am sicrhau eich bod yn cydymffurfio â therfyn amser
yr Ombwdsmon Pensiynau. Nid yw'r rhan fwyaf o'n hachosion yn cael
eu cyfeirio at yr Ombwdsmon Pensiynau ond os byddwch o'r farn y
gallai eich achos gael ei gyfeirio, gwnewch yn siŵr eich bod
yn gwneud hynny o fewn y terfyn amser o dair blynedd. Os oes
gennych unrhyw gwestiynau am hyn, bydd eich ymgynghorydd yn ceisio
rhoi canllaw i chi.
Adborth ar ein gwasanaeth
Mae eich adborth yn werthfawr i ni ac yn ein helpu i adolygu a
datblygu'r gwasanaeth a gynigir gennym.
Os hoffech ddweud wrthym am eich profiad o'n llinell gymorth neu
ein gwasanaeth ysgrifenedig ac nad ydych wedi cael holiadur,
ysgrifennwch atom i roi gwybod i ni.
Mae copïau o'n holiadur ar y llinell gymorth a'n holiadur
ar y gwasanaeth ysgrifenedig ar gael i'w lawrlwytho isod. Fel
arall, os hoffech i ni anfon holiadur atoch drwy e-bost, e-bostiwch
feedback@pensionsadvisoryservice.org.uk.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r holiadur ar y
llinell gymorth.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r holiadur ar y
gwasanaeth ysgrifenedig.
Dylid anfon holiaduron wedi'u cwblhau at:
Ms Charlotte Jackson
The Pensions Advisory Service
11 Belgrave Road
London SW1V 1RB
Cynllun iaith gymraeg: 2009
Cyhoeddiadau